Pencampwriaeth UEFA Euro 1976

Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA 1976 oedd y pumed Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion sy'n cael ei drefnu gan UEFA. Fe'i gynhaliwyd yn Iwgoslafia rhwng 16 a 20 Mehefin 1976.

Ar y pryd, dim ond pedair gwlad oedd yn cyrraedd y rowndiau terfynol ac o'r herwydd dim ond dwy rownd cyndefynol, rownd derfynol a gêm ar gyfer y trydydd safle gafodd eu cynnal yn Iwgoslafia. Dyma oedd y bencampwriaeth olaf i ddefnyddio'r fformat yma gyda'r bencampwriaeth yn ymestyn i wyth gwlad pedair blynedd yn ddiweddarach[1].

Am y tro cyntaf erioed cafwyd ciciau o'r smotyn i benderfynu enillwyr Pencampwriaeth UEFA[2]

Cafodd y Cymro, Clive Thomas ei benodi'n ddyfarnwr ar y gêm yn y rownd gynderfynol rhwng Tsiecoslofacia a'r Iseldiroedd[3].

  1. "1980 UEFA European Championship". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Panenka's panache seals Czech triumph". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Czechoslovakia rain on Dutch parade". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy